Judith-XtraCropped-JOH_19Oct14.jpg

Judith Soulsby

Bu Judith yn ymarfer myfyrdod Ymwybyddiaeth Ofalgar am tua deugain mlynedd a bu’n gymorth mawr iddi (yn ei bywyd). Yn 2001, bu’n un o sylfaenwyr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) ym Mhrifysgol Bangor.

Yn y ganolfan, (CMRP), bu’n dysgu cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar drwy therapi gwybyddol (MBCT) ac Ymwybyddiaeth Ofalgar i leihau straen (MBSR); bu’n dysgu a chyfarwyddo ar raglenni Meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar am chwe blynedd.

Yn 2014 hyfforddodd Judith fel athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar hunan tosturiol - https://centerformsc.org/ - ac yn y blynyddoedd diwethaf, canolbwyntiodd ar ddysgu’r cwrs hwn ynghyd â chyfleoedd encilio sy’n deillio ohono. Mae’r cwrs (MSC) yn ein cynorthwyo i ddatblygu sgiliau i ymateb â charedigrwydd tuag at ein hunain ac eraill; yn hytrach na bod yn rhy galed arnom ein hunain pan fo bywyd yn anodd. Gallwn fod yn dosturiol a thrin ein hunain fel y byddem yn trin ffrind - nad yw’n hawdd ond yn werth chweil i’w wneud.

Bydd Judith yn ymddeol o’i gwaith yn y Brifysgol yn haf 2018 ond bydd yn parhau i drefnu grwpiau ôl-ddilynol misol Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) i’r rhai sydd wedi cymryd cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar drwy therapi gwybyddol (MBSR) neu Ymwybyddiaeth Ofalgar i leihau straen (MBCT). 

Mae hi bellach yn gweithio i roi gwasanaeth ffon neu fideos ar lein un i un i gefnogi rhai sy’n ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar. O Hydref 2018, bydd yn dysgu ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar a hunan dosturi ar lein a ffon i grwpiau bychain. Cysylltwch os ydych angen mwy o wybodaeth.