sarah.jpg

Sarah Silverton

Cymhwysodd Sarah fel Therapydd Galwedigaethol yn 1986 a gweithiodd fel Therapydd Galwedigaethol mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Hyfforddodd Sarah hefyd fel cwnselydd. 

Yng nghanol y 1990au cafodd Sarah ei chyflwyno i ymwybyddiaeth ofalgar a chafodd ei hyfforddi gan Mark Williams i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Dysgodd hi ddosbarthiadau ar gyfer y 'cyfranogwyr triniaeth fel arfer' i ymchwil Therapi Gwybyddol yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar Segal, Williams a Teasdale(MBCT), a gyhoeddwyd yn 2000.

Hyfforddodd Sarah i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar gyda Mark Williams, Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar, Worcester yr Unol Daleithiau a phroses barhaus o oruchwyliaeth a hyfforddiant gydag amrywiaeth o athrawon ymwybyddiaeth ofalgar profiadol.

Mae Sarah wedi bod yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar o fewn lleoliadau iechyd meddwl ac i grwpiau poblogaeth cyffredinol ers dros 20 mlynedd. Darparodd Sarah nifer o gyrsiau MBCT i gleientiaid y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Roedd hi’n aelod o’r tîm yn y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) ym Mhrifysgol Bangor o 2001 hyd 2017 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau dysgu a hyfforddi ymwybyddiaeth ofalgar

 Rhwng 2009 a 2012 mae hi wedi bod yn un o’r athrawon ar y prawf ymchwil Aros yn dda wedi Iselder oedd yn cael ei weithredu ar y cyd gyda Mark Williams a chydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.

Hi yw awdur The Mindfulness Breakthrough a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr Watkins yn Ebrill 2012, a’i ailargraffu fel The Mindfulness Key yn 2016. Mae hi wedi cyfrannau at bapurau a gyhoeddwyd am MBCT.

Mae Sarah hefyd wedi cymryd rhan mewn datblygu cwricwla ar gyfer oedolion a phlant oed cynradd mewn lleoliad ysgolion, Paws b, ,b Foundations (trwy brosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion) ac yn ddiweddar The Present, a ddatblygwyd gyda Dusana Dorjee a Tabitha Sawyer, a lansiwyd yn 2018 yn y DU.