Tara 2016.jpg

Tara Anne Dew

Mae Tara wedi bod yn ymarfer myfyrdod ymwybyddiaeth ers dros 25 mlynedd ac yn ei ddysgu ers 2013. Yn wreiddiol, fe’i hyfforddwyd fel meddyg a bu'n gweithio fel meddyg teulu am 7 mlynedd cyn gorfod gadael ei gwaith oherwydd syndrom blinder cronig. Erbyn hyn, mae hi fwy neu lai wedi gwella o'r cyflwr ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o sut i ymarfer gyda phoen a salwch.

Symudodd i Ogledd Cymru yn 2003 i fod yn breswylydd mewn canolfan myfyrdod ger Cricieth ac mae bellach yn rhannu ei hamser rhwng cynorthwyo yn y ganolfan a dysgu ymwybyddiaeth yn y gymuned. Yn ogystal ag hyfforddi fel ymarferydd NLP (rhaglennu niwro-ieithyddol) mae hi wedi bod yn athro cynorthwyol gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Bangor ac hefyd yn hyfforddwr ardystiedig Breathworks sy’n arwain cyrsiau Ymwybyddiaeth ar gyfer Iechyd.

Mae hi hefyd wedi’i hyfforddi gan Gina Biegel i gyflwyno rhaglen Ymwybyddiaeth ddiwygiedig 8 wythnos ar gyfer pobl ifanc ac i rai yn eu harddegau. Mae ganddi gariad tuag at yr awyr agored a datblygodd gwrs 6 wythnos Ymwybyddiaeth mewn Natur. Mae’n hapus i gyflwyno cyrsiau i grwpiau neu i unigolion.