Back to All Events

Cwrs 8 wythnos i ddygymod â straen drwy feddylgarwch


Cwrs 8 wythnos i ddygymod â straen drwy feddylgarwch

yn  Gymraeg ar Zoom efo Gwenan Roberts

 

 Nos Fawrth Hydref 11eg hyd at Dachwedd 29ain (pob sesiwn yn ddwyawr o hyd - 19:00hr – 21:00hr)

Pris y cwrs  £100 Gostyngiadau £75

 

Gyda’n gilydd fe fyddwn yn dysgu dulliau  sut  i dalu sylw  mewn ffordd fwriadol a charedig i bethau fel ag y mae nhw ag i heriau ein bywyd bob dydd.  Drwy  fod yn fwy ymwybodol pan fydd y meddwl yn brysur, yr ydym yn dysgu sut i ymateb yn fwy effeithiol pan  fyddwn yn mynd ar goll yn  ein pennau. Y mae’r  rhaglen yn eich tywys drwy  ddysgu  ac ymarfer gwahanol fathau o fyfyrdodau,  dulliau o fod ym ymwybodol yn ein bywydau bob dydd,  symudiadau sylwgar, effaith straen ar y corff a sgilau i ymdrîn a hyn. Byddwch yn gweithio mewn grwp  o hyd at 12 , gyda cyfle i weithio  a thrafod mewn grwpiau llai.

 

Yr wyf yn athro meddylgarwch profiadol gyda thystysgrif ôl-radd i ddysgu MBSR ac MBCT ynghyd â MA (gyda rhagoriaeth) mewn Agweddau yn Ymwneud âc Ymwybyddiaeth Ofalgar o  Brifysgol  Bangor.  Yr wyf yn dilyn canllawiau ymarfer da athrawon Meddylgarwch. Fe fum hefyd yn gweithio i’r GIG am 36mlynedd fel  therapydd iaith a lleferydd.

 

Cysylltwch  a gwenanmair@hotmail.com am  fwy o wybodaeth.

Bydd angen rhoi blaendal o £20 i gofrestru erbyn Hydref 1af

Earlier Event: October 11
Mindful Self Compassion
Later Event: January 31
Living in the Present course