Y mae meddylgawrch yn ymarfer syml ond pwerus sy'n helpu i hyfforddi'r sylw, gan dalu sylw ar yr hyn sy'n digwydd o enyd i enyd yn garedig, heb feirniadu.
Yn ystod y cwrs byddwn yn dysgu rhai ymarferion syml yn ogystal â dysgu am effeithiau negyddol straen, a strategaethau i weithio efo hyn. Mae'r cwrs yn cynnwys ymarferion profiadol, megis myfyrdod a symudiadau sylwgar, dysgu ffurfiol a thrafodaethau grŵp.
Y mae hwn yn gwrs 8 wythnos gyda pob sesiwn yn para dwy awr yn ogystal a hyn fe fydd cyfle i gymeryd rhan mewn sesiwn estynedig tuag at ddiwedd y cwrs brynhawn Sul 22ain Mawrth
Gyda’n gilydd byddwn yn trafod:
• Sut i ymdopi'n well pan dan bwysau.
• Sut y mae meddylgawrch yn ein helpu i fod yn ymwybodol o’n patrymau o adweithio
• Ymarferion ymwybyddiaeth syml i wella ein gallu i wrando, cyfathrebu a rheoli’n emosiynau.
• Adnabod sut y gall ein meddyliau a'n syniadau greu mwy o straen
• Dod o hyd i gydbwysedd a synnwyr o dawelwch.
Tra bo elfen o waith pâr, trafodaeth grŵp bach ac ymholiad grŵp cyfan, dewisol yw holl agweddau’r cwrs ac nid oes rheidrwydd i rannu o flaen y grŵp.
Ymrwymiad i ymarfer cartref
Mae Ymarfer Cartref yn rhan bwysig o bob cwrs, ac yn ffordd bwysig i ddod ac ymwybyddiaeth i mewn i’n bywyd bob dydd. Byddwch yn derbyn taflenni gwaith efo’r cwrs a fydd yn creu gwerslyfr ac fe ofynir i chi lawrlwytho myfyrdodau i’w dilyn rhwng y sesiynau.
Mae sesiynau'r cwrs yn adeiladu ar ei gilydd felly mae'n bwysig anelu at fynychu pob sesiwn os gallwch chi, a hefyd sicrhau eich bod chi'n gallu gwneud lle am hyd at awr y dydd i ymarfer. Mae hyn er mwyn i chi gael y budd mwyaf o'r cwrs.
Agweddau Ymarferol
Gan fod hwn yn gwrs ar lein – y mae gofyn i chi sicrhau na fydd neb yn tarfu arnoch yn ystod y sesiynau. Bydd angen rhywle lle y gallwch orwedd a chadair neu stôl wrth law a fyddai’n briodol ar gyfer myfyrdod. Fe fydd angen gwisgo yn gyfforddus gan wneud yn siwr y byddwch yn gynnes yn ystod y sesiwn.
Cyn y cwrs byddwch yn cael eich gwahodd i ateb rhai cwestiynau syml ac fe fydd gofyn i chi gwblhau holiadur i asesu os yw’r cwrs yn addas i chi ar hyn o bryd.
Mae yna rhai sefyllfaoedd ac amgylchiadau pryd na fyddai cymeryd rhan yn y cwrs yn addas e.e. profedigaeth lem neu digwyddiad mawr diweddar iawn, caethiwed e.e alcohol, cyffuriau wedi’u rhagnodi neu anghyfreithlon). Iechyd meddwl. Os ydych chi wedi profi digwyddiad trawmatig yn ddiweddar gallai fod yn amhriodol i chi ymuno â chwrs ar hyn o bryd. Os oes gennych hanes o drawma mae’n bwysig i sôn am hyn wrth yr athro.
Mae cytundeb ar y cyd i gyfrinachedd ym mhob grŵp, felly mae cyfranogwyr yn cytuno i gadw beth sy’n digwydd yn grwp yn breifat
Pris £95 a gostyngiadau i £65 (myfyrwyr, pensiynwyr a rhai yn derbyn budd-daliadau)
Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwenan ar
Mae gan Gwenan Roberts gymhwyster ôl-radd i ddysgu Meddylgarwch o Brifysgol Bangor, ac MA mewn Dulliau sydd yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.