Cylch Myfyrio
Dyma gyfle i ni ddod at ein gilydd i ymdawelu a chydfyfyrio dan arweiniad a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr ydym yn cyfarfod ar nos Fercher Cyntaf o bob mis am 7:30 y.h ar Zoom. ( ni fydd cyfarfod ym mis Awst)
Fe fyddwn yn cyd-eistedd am gwta hanner awr ac yn cael sgwrs fer anffurfiol i ddilyn.
Croeso i rai sy’n newydd i fyfyrio a rhai mwy profiadol.
Edrych ymlaen i gael eich cwmni.
Os am ymuno cysylltwch a Gwenan Roberts drwy e-bost gwenanmair@hotmail.com i gael y linc Zoom