Cwrs 8 wythnos i ddygymod â straen drwy feddylgarwch
yn Gymraeg ar Zoom efo Gwenan Roberts
Nos Fawrth Hydref 11eg hyd at Dachwedd 29ain (pob sesiwn yn ddwyawr o hyd - 19:00hr – 21:00hr)
Pris y cwrs £100 Gostyngiadau £75
Gyda’n gilydd fe fyddwn yn dysgu dulliau sut i dalu sylw mewn ffordd fwriadol a charedig i bethau fel ag y mae nhw ag i heriau ein bywyd bob dydd. Drwy fod yn fwy ymwybodol pan fydd y meddwl yn brysur, yr ydym yn dysgu sut i ymateb yn fwy effeithiol pan fyddwn yn mynd ar goll yn ein pennau. Y mae’r rhaglen yn eich tywys drwy ddysgu ac ymarfer gwahanol fathau o fyfyrdodau, dulliau o fod ym ymwybodol yn ein bywydau bob dydd, symudiadau sylwgar, effaith straen ar y corff a sgilau i ymdrîn a hyn. Byddwch yn gweithio mewn grwp o hyd at 12 , gyda cyfle i weithio a thrafod mewn grwpiau llai.
Yr wyf yn athro meddylgarwch profiadol gyda thystysgrif ôl-radd i ddysgu MBSR ac MBCT ynghyd â MA (gyda rhagoriaeth) mewn Agweddau yn Ymwneud âc Ymwybyddiaeth Ofalgar o Brifysgol Bangor. Yr wyf yn dilyn canllawiau ymarfer da athrawon Meddylgarwch. Fe fum hefyd yn gweithio i’r GIG am 36mlynedd fel therapydd iaith a lleferydd.
Cysylltwch a gwenanmair@hotmail.com am fwy o wybodaeth.
Bydd angen rhoi blaendal o £20 i gofrestru erbyn Hydref 1af