Aros yn Ofalgar

Sesiynau dilyniant

Wedi i chi gwblhau cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar mae croeso cynnes i chi gadw mewn cysylltiad a mynychu sesiynau dilyniant gyda ni. Gall dod ynghyd gydag ymarferwyr Ymwybyddiaeth Ofalgar eraill fod yn gefnogol iawn a’n helpu i gadw ein practis yn fyw.  Y factor allweddol wrth aros yn Ofalgar yw cofio rhoi’r amser i’n hunain i aros a phwyllo. Cynigiwn amrywiaeth o sesiynau galw i mewn, a chwrs dilyniant 6 wythnos a luniwyd yn arbennig sy’n ein helpu i gofio a gwerthfawrogi hyn yn amlach.

Y peth pwysicaf i’w gofio yw’r peth pwysicaf!
— Suzuki Roshi

Cwrs Aros yn Ofalgar:
Mae’r cwrs Aros yn Ofalgar ar gyfer pobl sy’n dymuno datblygu a chryfhau eu hymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ar ôl y cwrs Wyth Wythnos MBSR neu MBCT. Mae’n gyfle i ymarfer gyda grŵp ymroddedig am chwech wythnos yn olynol, i ailymweld  ac adolygu ymarferion y cwrs gwreiddiol ac archwilio ymarferion newydd.  Mae llinynnau hanfodol o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn cael eu dwyn i mewn fel themâu wythnosol. Mae’r rhain yn cynnwys cymhelliad a bwriad i ymarfer, agweddau pwysig i ddod i ymarfer a rhwystrau rhag ymarfer.   Archwiliwn ffyrdd o weithio gydag anawsterau a sut i ddatblygu mwy o garedigrwydd tuag at eich hun. Edrychwn hefyd ar gyfathrebu gofalgar.  Bydd y cwrs yn digwydd yn weddol reolaidd ym Mangor.  Cysylltwch ag Annee Griffiths i ddysgu rhagor

Sesiynau Dilyniant Misol Bangor :
Cynhelir ar nos Lun yn Adeilad Wheldon , Prifysgol Bangor. 

Boreau Ymwybyddiaeth Ofalgar Hermitage :
Cynhelir ar fore Sadwrn unwaith y mis yn yr Hermitage ger Cricieth

Dyddiau Llawn:
Diwrnod o ymarfer dan gyfarwyddyd sy’n ffurfio rhan o gwrs 8 wythnos. Wedi cwblhau cwrs mae croeso i chi ymuno ag unrhyw un o’r Dyddiau Llawn o’r cyrsiau cyfredol. 

Dyddiau Llawn Sydd i Ddod: