Beth yw Ymwybyddiaeth?

Rho gynnig ar rhywbeth gwahanol. Mae ‘mindfulness’ yn rhoi egni yn ôl yn dy fywyd.
— Osian, cydlynydd cefnogol
Os ydych yn gwybod ychydig neu yn gwybod dim byd am ‘ymwybyddiaeth’ mae’n werth cychwyn ar y daith o’i dysgu, a’i mwynhau. Mae’r daith yn cychwyn ag un cam.
— Chris, gweithiwr cymdeithasol wedi ymddeol

Ymwybyddiaeth yw'r grefft o fod yn gwbl bresennol wrth i'n bywydau ddatgelu eu hunain o eiliad i eiliad. Gyda chwilfrydedd tawel a charedig rydym yn dysgu sut i archwilio ein profiadau, gan dalu sylw arbennig i'n meddyliau, ein teimladau a theimladau ein cyrff.

Trwy arafu i lawr a thalu sylw rydym yn dechrau sylweddoli cymaint mae'n bywydau'n cael eu gyrru gan arferion a chredoau nad ydym prin yn ymwybodol ohonynt. Mae'r gweld clir sy'n deillio o ymarfer ymwybyddiaeth yn dangos ffyrdd gwahanol o ymdeimlo â'n profiadau. Gallwn ddod o hyd i ddewisiadau newydd o sut i fod a sut i ymateb mewn unrhyw sefyllfa. Rydym yn ail-ddarganfod ein dyfeisgarwch mewnol.

Oherwydd bod ymwybyddiaeth yn ffordd naturiol o fod, gall unrhyw un yn unrhyw le ei dysgu a'i hymarfer. Mae llawer o ddiwylliannau wedi datblygu technegau o hyfforddi mewn ymwybyddiaeth, gyda'r archwilio helaethaf yn dod o'r traddodiad Bwdhaidd. Mae ein dull ni o ddysgu ymwybyddiaeth yn hollol seciwlar.

Mae'r cwrs yn cyflwyno nifer o ymarferion myfyrio sy'n archwilio'r corff a'r anadl tra'n llonydd ac wrth symud yn ysgafn. Yn ogystal mae'n cyflwyno ymarferion anffurfiol sy'n ein helpu i ddod ag ymwybyddiaeth yn rhan o'n bywydau. Er bod yr arfer yn syml a naturiol, mae'n cymryd hyfforddiant, a gall y canlyniadau drawsnewid ein bywydau.

Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn ac mae wedi newid fy mywyd. Yr oedd yn cyflawni’r hyn yr oeddwn wedi’i obeithio a byddaf yn ei argymell i bobl eraill sy’n chwilio am ffordd newydd o ddelio â straen ac iselder.
— Penny, athrawes wedi ymddeol

Mae'r mudiad ymwybyddiaeth modern seciwlar yn prysur ymuno â'r brif ffrwd ac yn dod yn rhan o ofal iechyd, ysgolion, carchardai a gweithleoedd eraill. Mae dros 30 mlynedd o ymchwil gwyddonol yn cefnogi'r ymarfer. Mae'r astudiaethau hyn yn dangos bod ymwybyddiaeth yn gallu lleihau straen yn yr hirdymor a bod y lleihad hwn yn fanteisiol i fyw bywyd mwy bodlon. Mae'r lleihad hwn mewn straen hefyd yn effeithio'n sylweddol ar nifer o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.

Gall ymarfer ymwybyddiaeth fod o fudd i broblemau iechyd corfforol neu feddyliol. Neu gallwn ei hymarfer er mwyn archwilio ein profiad a'n galluoedd yn llawnach.

Rhoddodd ymwybyddiaeth fy mywyd yn ôl i mi. Mae’n ffrind gorau y gallaf bob amser ddibynnu arni.
— Carole