Beth ‘dan ni’n cynnig
Dan ni’n cynnig amrywiaeth eang o ddulliau seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar i grwpiau yn ogystal ag unigolion mewn lleoliadau amrywiol. Cysylltwch â ni os ydych chi’n dymuno trafod pa ddull all weddu orau i’ch anghenion.
Gadewch i ni wybod os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar drwy gyfrwng y Gymraeg .
Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau dysgu ymwybyddiaeth ofalgar wrth gymryd y cwrs Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae hwn yn gwrs 8 wythnos sydd wedi ei lunio i hyrwyddo llesiant a lleihau straen
Therapi Gwybyddol yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar
Cwrs wedi ei ddylunio i leihau ailwaelu mewn pobl sy’n profi pyliau o iselder
Dyma Ti
Mae ‘Dyma Ti!’ yn gwrs wyth wythnos sy’n cyflwyno ffyrdd o ddarganfod ymwybyddiaeth ofalgar ac archwilio ffyrdd o ddatblygu lles
Ymwybyddiaeth Ofalgar Un i Un
Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar arbennig sy’n gweddu i unigolyn neu’n cael ei gynnig fel rhan o therapi un i un.
Sesiynau blasu
Sesiynau i grwpiau neu unigolion i roi blas a throsolwg o beth sydd gan Ymwybyddiaeth Ofalgar i gynnig
Cyrsiau dilyniant a sesiynau
Galwch i mewn i sesiynau misol rheolaidd neu gwrs 6 wythnos 'Aros yn Ofalgar' sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer ymarfer parhaol.
Ymwybyddiaeth Ofalgar Breathworks ar gyfer Iechyd
Cwrs sy’n arbennig o addas ar gyfer pobl sy’n byw gyda phoen parhaus, salwch neu flinder
Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Gweithle
Cwrs byrrach wedi’i addasu ar gyfer dod â sgiliau perthnasol Ymwybyddiaeth Ofalgar i’r Gweithle
Ymwybyddiaeth Ofalgar i Bobl Ifanc
Cwrs wedi ei lunio ar gyfer anghenion penodol rhai yn eu harddegau ac oedolion ifanc.
Ymwybydiaeth Ofalgar mewn Natur
Cwrs ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn yr awyr agored.
I ddysgu rhagor am lwybrau hyfforddiant i ddysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar cysylltwch â Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor